Carreg Fedd a Gwaith Maen
Pwy ddylwn i ffonio? Beth sydd angen inni ei wneud nesaf?
Rydym yn awgrymu eich bod chi’n codi’r ffôn a chysylltu gyda ni yn gyntaf
01492 544797 Neu 07940 230664
Mae sawl un o’r farn ei bod hi’n bwysig gosod atgof parhaol o fywydau eu hanwyliaid We provide a range of masonry memorials for people to remember their loved ones.
Wrth osod un o’n meini coffa bydd yn le lle gallwch chi ymweld ag o i osod blodau, myfyrio a chofio am yr holl amseroedd hapus gydag eich teulu a’ch ffrindiau – bydd yn atgof materol o’ch cariad a’ch atgofion personol.
Ein nod ydy sicrhau bod dewis maen coffa addas i gofio am eich anwylyd, ac sy’n deyrnged deilwng iddyn nhw, yn dasg mor rhwydd â phosibl. Rydym ni yma yn Nhrefnwyr Angladdau Dewi Glyn Jones yn gallu cynnig cyngor a chymorth proffesiynol ichi greu maen coffa sy’n gweddu i’ch anwyliaid i’r dim. Mae croeso ichi gysylltu gyda ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Beth ddylech chi ei wneud pan fo rhywun yn marw
Byddwn yn eich helpu pob cam o’r ffordd drwy gofrestru’r farwolaeth, trafod y goblygiadau os ydy’r crwner ynghlwm â’r angladd ac ateb unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych chi. Mae gennym ni drefnydd angladdau ar gael i siarad gyda theuluoedd unrhyw bryd. Gan y byddwn ni’n ymgymryd â’r rhan helaeth o’r baich, bydd cyfle ichi hel eich meddyliau at eich gilydd a pharatoi am y dyddiau sydd ar droed.
