Eich Helpu Chi i Ddewis y Gwasanaeth
Angladd Gorau
Pan mae rhywun yn marw, mae’n adeg emosiynol ac anodd i bawb.
Pwy ddylwn i ffonio? Beth sydd angen inni ei wneud nesaf?
Rydym yn awgrymu eich bod chi’n codi’r ffôn a chysylltu gyda ni yn gyntaf
01492 544797 Neu 07940 230664
Y Mathau o Wasanaethau Angladd Sydd Ar Gael
Pan fydd gofyn ichi fynd ati i wneud trefniadau angladd, gallwch deimlo o dan bwysau sylweddol. I’r perwyl hwn, gallwn eich helpu chi i ddod o hyd i’r opsiwn addas ichi neu eich anwylyd. Rydym yma i wrando a’ch cefnogi chi gyda’ch dewisiadau ac rydym bob amser wrthlaw i drafod eich syniadau. Gallwn eich cynghori ynghylch y gost a’r trefniadau lleol y mae angen ichi fynd i’r afael â nhw.
Amlosgiad Uniongyrchol
Amlosgiad Dioruchwyliaeth ydy’r gwasanaeth cost isaf sydd ar gael. Mae hwn ar gyfer pobl sy’n ffafrio angladd syml iawn.
Rydym yn darparu’r trefniadau angladd hyn yn ein swyddfa ym Mae Penrhyn. Mae’n bosibl y gallai hyn fod yn bwysig ichi gan nad ydy pob ‘cwmni amlosgi uniongyrchol’ yn fusnesau teulu.
Beth sydd wedi’i gynnwys yn y gwasanaeth hwn?
- Ein gwasanaethau proffesiynol.
- Cyfarfod i gwblhau’r holl waith papur hanfodol gan gynnwys cyngor ynghylch cofrestru.
- Cymorth gyda hawliad Adran Gwaith a Phensiynau o’r Gronfa Gymdeithasol os ydych chi’n gymwys.
- Casglu’r person sydd wedi marw o fewn cwmpas 25 milltir.
- Cyfathrebu gyda’r Crwner os oes angen.
- Gofalu am y person sydd wedi marw mewn amodau hylan.
- Arch effaith coed syml sy’n addas i’w amlosgi.
- Trosglwyddo’r person sydd wedi marw mewn ambiwlans preifat i Amlosgfa Bae Colwyn.
- Dychwelyd y llwch yn dilyn y gwasanaeth i’n swyddfa i’w gasglu yn y blwch o’r amlosgfa.
Mae hwn yn wasanaeth hanfodol cyfyngedig yn unig ac nid yw’n addas os ydych chi’n bwriadu cynnal seremoni angladd traddodiadol. Ni fydd unrhyw un yn bresennol yn y claddiad ac ni fydd modd i’r teulu na chynrychiolwyr fod yn dyst i hyn. Er mwyn cadw costau’r gwasanaeth hwn mor isel â phosibl, gofynnwn yn garedig am y taliad ymlaen llaw.
Mae cost y gwasanaeth Amlosgi Dioruchwyliaeth yn £1400 gan gynnwys y ffi amlosgi. (Os bydd angen tystysgrif Meddyg ar gyfer yr amlosgi, bydd cost ychwanegol o £164). Y cyfanswm gan gynnwys y ffioedd meddyg ydy £1564.
Angladd Syml
Mae ein gwasanaethau angladd wedi’u teilwra’n arbennig i’r teulu rydym yn gofalu amdanyn nhw. Fodd bynnag, er mwyn eich helpu i gymharu gwasanaethau, rydym wedi paratoi dwy enghraifft o wasanaethau poblogaidd ymysg teuluoedd
Nodweddion ein Gwasanaeth Angladd Syml:
- Gwasanaethau proffesiynol trefnydd angladdau sy’n mynd i’r afael â’r holl drefniadau angenrheidiol.
- Cyngor am gofrestru a gweithdrefnau’r crwner.
- Cyngor ynghylch cyflwyno hawliad am daliad angladd gan Gronfa
- Casglu’r person sydd wedi marw o fewn cwmpas 25 milltir o’n swyddfa ymhen oriau swyddfa.
- Gofalu am y person sydd wedi marw mewn amodau hylan addas.
- Arch sy’n addas ar gyfer claddiad neu amlosgiad.
- Hers i drosglwyddo’r person sydd wedi marw o’n capel gorffwys i gyfeiriad o’ch dewis chi ac yna ymlaen i leoliad ar gyfer y gwasanaeth angladd ac yn olaf i’r fynwent neu’r amlosgfa.
- Gweinyddu rhoddion elusennol.
- Cymorth gyda chyflwyno hysbysiad mewn papurau bro a phapurau newydd cenedlaethol.
- Dychwelyd y llwch mewn tiwb gwasgaru addurnol. (os ydy’r person wedi’i amlosgi).
- Defnydd o’r capel gorffwys i ymweld â’r person sydd wedi marw hyd at ddiwrnod y gwasanaeth angladd.
Sylwch nid ydym yn cynnig y canlynol fel rhan o’r gwasanaeth angladd syml
- Unrhyw limwsinau.
- Treuliau neu daliadau trydydd parti wedi’u cyflwyno ar eich rhan chi.
Angladd Traddodiadol
Mae’r gwasanaeth angladd traddodiadol yn boblogaidd ymysg y teuluoedd rydym yn gofalu amdanyn nhw. Mae’n debyg mai hwn ydy’r gwasanaeth y mae’r rhan helaeth o bobl yn fwyaf cyfarwydd ag o. Er bod ein holl wasanaethau wedi’u teilwra’n arbennig, dyma enghraifft o’r costau nodweddiadol isod.
Nodweddion ein Gwasanaeth Traddodiadol:
- Gwasanaethau proffesiynol trefnydd angladdau sy’n mynd i’r afael â’r holl drefniadau angenrheidiol.
- Cwblhau’r holl waith papur priodol a sicrhau caiff ei gyflwyno i’r cyrff trydydd parti perthnasol.
- Cyngor am gofrestru a gweithdrefnau’r crwner.
- Cyngor ynghylch cyflwyno hawliad am daliad angladd gan Gronfa
- Casglu’r person sydd wedi marw o fewn cwmpas 25 milltir o’n swyddfa.
- Gofalu am y person sydd wedi marw mewn amodau hylan addas.
- Arch sy’n addas ar gyfer claddiad neu amlosgiad.
- Rhestr yr enwau cyn y gwasanaeth angladd fel eich bod chi’n ymwybodol o bawb oedd yn bresennol (os yn briodol).
- Gweinyddu rhoddion elusennol.
- Cymorth gyda chyflwyno hysbysiad mewn papurau bro a phapurau newydd cenedlaethol.
- Hers ac un limwsin i’ch casglu o’ch cartref neu leoliad arall a’ch cludo i’r gwasanaeth angladd yna i’r seremoni claddu ac yn olaf i’r derbyniad.
- Defnydd o’r capel gorffwys i ymweld â’r person sydd wedi marw hyd at ddiwrnod y gwasanaeth angladd.
- Dychwelyd y llwch mewn tiwb gwasgaru addurnol. (os ydy’r person wedi’i amlosgi).
- Yn ogystal â threuliau (Mae’r treuliau yn daliadau trydydd parti ar eich rhan chi).
Beth ddylech chi ei wneud pan fo rhywun yn marw
Byddwn yn eich helpu pob cam o’r ffordd drwy gofrestru’r farwolaeth, trafod y goblygiadau os ydy’r crwner ynghlwm â’r angladd ac ateb unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych chi. Mae gennym ni drefnydd angladdau ar gael i siarad gyda theuluoedd unrhyw bryd. Gan y byddwn ni’n ymgymryd â’r rhan helaeth o’r baich, bydd cyfle ichi hel eich meddyliau at eich gilydd a pharatoi am y dyddiau sydd ar droed.
