Gwybodaeth ac Arweiniad
Trefnu Angladd

Pan mae rhywun yn marw, mae’n adeg emosiynol ac anodd i bawb.

Pwy ddylwn i ffonio? Beth sydd angen inni ei wneud nesaf?

Rydym yn awgrymu eich bod chi’n codi’r ffôn a chysylltu gyda ni yn gyntaf

01492 544797 Neu 07940 230664

Byddwn yn eich helpu pob cam o’r ffordd

Byddwn yn trafod y broses o gofrestru’r farwolaeth gyda chi, y goblygiadau os ydy’r crwner ynghlwm â’r angladd ac unrhyw gwestiynau arall sydd gennych chi.

Mae gennym ni drefnydd angladdau ar gael i siarad gyda theuluoedd unrhyw bryd. Gan y byddwn ni’n ymgymryd â’r rhan helaeth o’r baich, bydd cyfle ichi hel eich meddyliau at eich gilydd a pharatoi am y dyddiau sydd ar droed.

Dewi Glyn Jones Funeral Director
Dewi Glyn Jones Funeral Director

Dweud Unwaith

Pan fo rhywun yn marw, mae nifer o dasgau y bydd angen ichi eu cyflawni, ar adeg lle nad ydy’r rhan helaeth ohonom yn teimlo’n barod i’w cyflawni. Un o’r tasgau hyn ydy cysylltu gydag adrannau’r llywodraeth a gwasanaethau cyngor lleol i’w hysbysu o’r farwolaeth. Mae cynghorau Gogledd Cymru yn cynnig gwasanaeth rydym yn gobeithio byddai’n symleiddio’r broses.

Lawr lwythwch y ffurflen i wybod mwy.

Cofrestru Marwolaeth

Ymysg y bobl hynny sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol i gofrestru marwolaeth mae:

  • Aelod o’r Teulu.
  • Person sy’n bresennol yn ystod y farwolaeth.
  • Preswylydd y safle lle bu farw’r person os oedd o / hi yn ymwybodol o’r farwolaeth.
  • Y person sy’n trefnu’r angladd (dydy hyn ddim yn cynnwys y trefnydd angladdau).

Pa wybodaeth sydd ei angen pan fyddwch yn cofrestru marwolaeth?

Pan fyddwch chi’n mynd i’ch apwyntiad i gofrestru marwolaeth, cofiwch sicrhau eich bod yn meddu ar yr wybodaeth ganlynol os gwelwch yn dda:

  • Y dystysgrif feddygol sydd wedi’i gyflwyno gan y meddyg oedd yn trin salwch terfynol y person fu farw. Heb y dystysgrif hon, ni fydd modd i’r Cofrestrydd gofrestru’r farwolaeth. Os ydy’r Crwner wedi bod ynghlwm, byddai Swyddfa’r Crwner yn eich cynghori am eich camau gweithredu.
  • Tystysgrif geni neu basport y person marw. Nid yw’r rhain yn hanfodol ond fe allan nhw fod yn ddefnyddiol.
  • Cerdyn meddygol y person marw. Eto, nid yw hyn yn hanfodol ond byddai’n ddefnyddiol os allwch chi ei gyflwyno.

Beth fydd yn digwydd yn yr apwyntiad?

Bydd Cofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau’n siarad gyda chi’n breifat yn y Swyddfa Gofrestru ac yn gofyn ichi am y canlynol:

  • Dyddiad a lleoliad y farwolaeth.
  • ● Enw llawn a chyfenw’r person marw (a’r cyfenw cyn priodi os oedd y person marw’n ferch briod).
  • Dyddiad a man geni.
  • Galwedigaeth y person marw ac os oedd y person marw’n ferch briod, enw llawn a galwedigaeth ei gŵr.
  • Dyddiad geni’r gŵr neu’r wraig sydd wedi goroesi os oedd y person marw yn briod.
  • P’un ai oedd y person marw yn derbyn pensiwn o gronfeydd cyhoeddus ai pheidio.

Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru’r farwolaeth, bydd y Cofrestrydd yn gofyn ichi wirio bod yr holl fanylion yn gywir cyn arwyddo’r Gofrestr. Fe ddylech chi wirio’r wybodaeth yn ofalus cyn arwyddo. Unwaith y byddwch chi wedi arwyddo’r cofnod, bydd y Cofrestrydd yn cyflwyno’r dogfennau sydd wedi’u rhestru yn yr adran nesaf ichi:

Y Dogfennau fyddwch chi’n eu Derbyn yn yr Apwyntiad

  • Ffurflen werdd” sef ‘Tystysgrif y Cofrestrydd ar gyfer Claddu ac Amlosgi’ a fyddai’n fodd ichi drefnu’r angladd. Ni chodir unrhyw dâl am y ffurflen hon. Os bydd y Crwner ynghlwm, mae’n bosibl y bydd gofyn ichi weithredu gweithdrefn wahanol.
  • Ffurflen er dibenion Diogelwch Cymdeithasol. Ni chodir unrhyw dâl am y ffurflen hon.
  • Gellir cyflwyno copi ardystiedig o’r cofnod yn y Gofrestr (tystysgrif marwolaeth) am gost o £11 os oes angen.

Pryd Adroddir Marwolaeth i Grwner

  • Gallai meddyg roi gwybod i grwner am y farwolaeth os:
  • na wyddir achos y farwolaeth
  • oedd y farwolaeth yn dreisgar neu’n annaturiol
  • oedd y farwolaeth yn sydyn ac yn anesboniadwy
  • nad oedd ymarferydd meddygol wedi ymweld â’r person fu farw yn ystod eu salwch terfynol
  • nad ydy’r dystysgrif feddygol ar gael
  • nad oedd meddyg a wnaeth arwyddo’r dystysgrif feddygol wedi ymweld â’r person fu farw ymhen 14 diwrnod cyn eu marwolaeth neu ar ôl iddyn nhw farw
  • bu’r person farw yn ystod llawdriniaeth neu cyn i’r person ddeffro ar ôl bod o dan anesthetig
  • ydy’r dystysgrif feddygol yn awgrymu gall y farwolaeth fod wedi’i hachosi gan afiechyd diwydiannol neu wenwyn diwydiannol

Gallai’r crwner benderfynu bod achos y farwolaeth yn amlwg. Yn yr achos hwn:

  • Bydd y meddyg yn arwyddo tystysgrif feddygol.
  • Byddwch yn cyflwyno’r dystysgrif feddygol i’r cofrestrydd.
  • Bydd y crwner yn cyflwyno tystysgrif i’r cofrestrydd yn datgan nad oes angen cynnal post-mortem.

Archwiliad Wedi Marwolaeth

Er mwyn canfod achos marwolaeth person, gall y crwner benderfynu bod angen cynnal post-mortem. Gellir cyflawni post-mortem naill ai mewn ysbyty neu mewn marwdy. Ni allwch wrthwynebu post-mortem gan grwner – ond os ydych chi wedi gofyn, mae’n rhaid i’r crwner roi gwybod ichi (a Meddyg Teulu’r person) pryd a lle fydd yr archwiliad.

Ar ôl y post-mortem:

  1. Bydd y crwner yn rhyddhau’r corff ar gyfer angladd unwaith y byddan nhw wedi cyflawni’r archwiliadau post-mortem a does dim angen unrhyw archwiliadau pellach.
  2. Os caiff y corff ei ryddhau heb unrhyw gwêst, bydd y crwner yn anfon ffurflen (‘Ffurflen Binc – ffurflen 100B’) at y cofrestrydd yn datgan achos y farwolaeth.
  3. Os caiff y corff ei amlosgi, bydd y crwner hefyd yn anfon ‘Tystysgrif Crwner – ffurflen Amlosgi 6’.

Os ydy’r crwner yn penderfynu cynnal cwêst:

Mae’n rhaid i grwner gynnal cwêst os ydy achos y farwolaeth yn dal yn anhysbys, neu os bu farw’r person:

  • trwy farwolaeth dreisgar neu annaturiol o bosibl
  • yn y carchar neu yn nalfa’r heddlu

Ni allwch gofrestru’r farwolaeth tan ar ôl y cwêst. Y crwner sy’n gyfrifol am anfon y gwaith papur perthnasol at y cofrestrydd.
Nid oes modd cofrestru’r farwolaeth tan ar ôl y cwêst, ond gallai’r crwner rannu tystiolaeth gyda chi i brofi bod y person wedi marw Unwaith y bydd y cwêst wedi’i gwblhau, bydd y crwner yn rhoi gwybod i’r cofrestrydd pa fanylion y dylid ei nodi ar y gofrestr.

Ein Swyddfeydd:

Llandudno Town Hall, Lloyd St, Llandudno, LL30 2UP Tel: 01492 576625

Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2PW Tel: 01766 771000

Town Hall, Wellington Rd, Rhyl, LL18 1BA Tel: 01745 366610

Yr Ardaloedd Rydym yn eu Gwasanaethu

Penrhyn Bay, Deganwy, Colwyn Bay, Llandudno, Conwy, Rhos on Sea a’r ardaloedd cyfagos.