Blodau Angladdau
Pwy ddylwn i ffonio? Beth sydd angen inni ei wneud nesaf?
Rydym yn awgrymu eich bod chi’n codi’r ffôn a chysylltu gyda ni yn gyntaf
01492 544797 Neu 07940 230664
Yn ystod cyfnod anodd dros ben, gallai blodau angladd a theyrngedau blodau fod yn ffordd effeithiol o fynegi eich teimladau a’ch emosiynau Maen nhw’n ffordd arbennig o gynnig teyrnged bersonol er cof am eich anwylyd.
Mae gennym ni ystod eang o ddewisiadau o ran trefniadau blodau a threfniadau blodau angladd a bydd ein gweithwyr angladdau proffesiynol wrthlaw i’ch helpu drwy gydol y broses. Gallwn eich helpu gydag unrhyw fath o deyrnged flodau o’n detholiad o deyrngedau gweddus neu gallwch fynd ati i ddylunio’ch trefniad unigryw eich hun gan ddefnyddio hoff flodau eich anwylyd.
Hoffech chi wybod mwy? Cysylltwch gyda ni. Cysylltu gyda ni
Beth ddylech chi ei wneud pan fo rhywun yn marw
Byddwn yn eich helpu pob cam o’r ffordd drwy gofrestru’r farwolaeth, trafod y goblygiadau os ydy’r crwner ynghlwm â’r angladd ac ateb unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych chi. Mae gennym ni drefnydd angladdau ar gael i siarad gyda theuluoedd unrhyw bryd. Gan y byddwn ni’n ymgymryd â’r rhan helaeth o’r baich, bydd cyfle ichi hel eich meddyliau at eich gilydd a pharatoi am y dyddiau sydd ar droed.
