Trefnydd Angladdau Proffesiynol
Gwasanaethau a Chanllawiau ar gyfer Angladdau

Pan mae rhywyn yn marw,mae’n adeg emosiynol ac anodd i bawb.

Pwy ddylwn i ffonio? Beth sydd angen inni ei wneud nesaf?

Rydym yn awgrymu eich bod chi’n codi’r ffôn a chysylltu gyda ni yn gyntaf

01492 544797 Neu 07940 230664

Gwasanaethau Angladd

Pan fydd gofyn ichi fynd ati i wneud trefniadau angladd, gallwch deimlo o dan bwysau sylweddol. I’r perwyl hwn, gallwn eich helpu chi i ddod o hyd i’r opsiwn addas ichi neu eich anwylyd gydag ein gwasanaethau angladd.

Dewi Glyn Jones Funeral Director
Dewi Glyn Jones Funeral Director

Trefnu Angladd

Byddwn yn eich trafod drwy gofrestru’r farwolaeth, beth sy’n digwydd os yw’r crwner yn rhan o’r angladd ac unrhyw gwestiynau eraill a allai fod gennych.

Beth ddylech chi ei wneud pan fo rhywun yn marw

Byddwn yn eich helpu pob cam o’r ffordd drwy gofrestru’r farwolaeth, trafod y goblygiadau os ydy’r crwner ynghlwm â’r angladd ac ateb unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych chi. Mae gennym ni drefnydd angladdau ar gael i siarad gyda theuluoedd unrhyw bryd. Gan y byddwn ni’n ymgymryd â’r rhan helaeth o’r baich, bydd cyfle ichi hel eich meddyliau at eich gilydd a pharatoi am y dyddiau sydd ar droed.

Yr Ardaloedd Rydym yn eu Gwasanaethu

Penrhyn Bay, Deganwy, Colwyn Bay, Llandudno, Conwy, Rhos on Sea a’r ardaloedd cyfagos.