Cofroddion Llwch
Mae Cofroddion yn ffordd wych o gadw’ch anwyliaid yn agos atoch chi a sicrhau na fyddan nhw’n mynd yn angof.
Pwy ddylwn i ffonio? Beth sydd angen inni ei wneud nesaf?
Rydym yn awgrymu eich bod chi’n codi’r ffôn a chysylltu gyda ni yn gyntaf
01492 544797 Neu 07940 230664
Atgofion Hand On Heart
Pan fyddwn ni’n colli rhywun annwyl, bydd yr holl atgofion sydd gennym ni ohonyn nhw’n fwy gwerthfawr nac erioed. Pan fyddwn ni’n colli rhywun annwyl, bydd yr holl atgofion sydd gennym ni ohonyn nhw’n fwy gwerthfawr nac erioed. Wrth wisgo’r gemwaith a’i gydio’n dynn yn eich dwylo bydd yn meithrin cysylltiad gyda’ch anwylyd ac yn sicrhau bod yr holl atgofion sydd gennych chi wrthlaw bob amser.
Eisiau darganfod mwy? CYSYLLTU GYDA NI
Ashes Into Glass
Mae Ashes into Glass yn mynd ati i greu gemwaith gemau unigryw wrth ychwanegu haen o lwch eich anwylyd ymysg gwydr tawdd a chrisialau gwydr lliw. Bydd y garreg unigryw wedi’i gosod mewn gosodiad crefftus hardd a bydd yn atgof dyddiol ac yn deyrnged deilwng i fywyd eich anwylyd.
Eisiau darganfod mwy? CYSYLLTU GYDA NI
Beth ddylech chi ei wneud pan fo rhywun yn marw
Byddwn yn eich helpu pob cam o’r ffordd drwy gofrestru’r farwolaeth, trafod y goblygiadau os ydy’r crwner ynghlwm â’r angladd ac ateb unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych chi. Mae gennym ni drefnydd angladdau ar gael i siarad gyda theuluoedd unrhyw bryd. Gan y byddwn ni’n ymgymryd â’r rhan helaeth o’r baich, bydd cyfle ichi hel eich meddyliau at eich gilydd a pharatoi am y dyddiau sydd ar droed.
