Eirch, Casgenni a Thiwbiau Gwasgaru
Pwy ddylwn i ffonio? Beth sydd angen inni ei wneud nesaf?
Rydym yn awgrymu eich bod chi’n codi’r ffôn a chysylltu gyda ni yn gyntaf
01492 544797 Neu 07940 230664
Mae dewis arch priodol yn rhan bwysig o’r broses trefnu angladd. Yma yn Dewi Glyn Jones rydym yn falch o gynnig detholiad o eirch, casgenni a thiwbiau gwasgaru unigryw sydd wedi’u gwneud o ddeunyddiau o’r radd flaenaf.
Mae ein detholiad o eirch wedi’u dewis yn ofalus er mwyn sicrhau bod yr angladd yn gwbl bersonol. Gallwch ddewis o eirch lliwgar, eirch sy’n ystyriol o’r amgylchedd ac sydd wedi’u creu o helyg neu forwellt, neu beth am ddewis arch mwy traddodiadol wedi’i wneud o goed derw cadarn.
Gallwch fwrw golwg ar ein detholiad o eirch, casgenni a thiwbiau gwasgaru arbennig yn y pamffled canlynol.
Beth ddylech chi ei wneud pan fo rhywun yn marw
Byddwn yn eich helpu pob cam o’r ffordd drwy gofrestru’r farwolaeth, trafod y goblygiadau os ydy’r crwner ynghlwm â’r angladd ac ateb unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych chi. Mae gennym ni drefnydd angladdau ar gael i siarad gyda theuluoedd unrhyw bryd. Gan y byddwn ni’n ymgymryd â’r rhan helaeth o’r baich, bydd cyfle ichi hel eich meddyliau at eich gilydd a pharatoi am y dyddiau sydd ar droed.
