Fflydoedd a Cherbydau

Rydym yn awgrymu eich bod chi’n codi’r ffôn a chysylltu gyda ni yn gyntaf

01492 544797 Neu 07940 230664

Car a Cheffyl

Gallai ychwanegu hers car a cheffyl at yr angladd feithrin ymdeimlad o achlysur ar gyfer y teuluoedd hynny sy’n ffarwelio â’u hanwyliaid. Gallwn naill ai ddarparu pâr o geffylau neu dîm o geffylau i dynnu car du neu wyn, yn dibynnu ar eich gofynion chi.

Horse-drawn funerals
Dewi Glyn Jones Funeral Director

Hersiau Beic Modur a Char Ochr

Mae ein holl gerbydau angladd fel pin mewn papur gyda manylion proffesiynol sy’n sicrhau y byddwn ni’n cynnig moethusrwydd heb ei ail drwy gydol y gwasanaeth angladd a thaith heddychlon, esmwyth ac urddasol wrth inni eich cludo.

Rydym yn ymdrechu hyd eithaf ein gallu i sicrhau bod y gwasanaeth angladd mor bersonol â phosibl. Os ydych chi’n feiciwr modur, pa ffordd orau o ffarwelio na gyda hers beic modur.

Hers Land Rover Defender

Ein nod ydy cynnig cymorth angladd gofalgar a phersonol ynghyd â gwasanaeth o’r radd flaenaf, cymhwysedd o’r safon uchaf, cwrteisi, tosturi a phroffesiynoldeb.

Fel trefnwyr angladdau, rydym yn ymdrechu hyd eithaf ein gallu i ddarparu gwasanaethau parchus gan ddefnyddio cerbydau unigryw a sicrhau ein bod yn rhagori ar ddisgwyliadau pob teulu rydym ni’n eu gwasanaethu.

Mae’r cerbydau Land Rover clasurol rydym ni’n eu cynnig yn cynrychioli’r ffordd o fyw iwtilitaraidd yn yr awyr agored y mae sawl un yn ei fwynhau. Mae’r Land Rover clasurol yn un maint llawn, mewn lliw du traddodiadol, gyda dec hers wedi’i wneud yn arbennig a chanddo orffeniadau a gosodiadau crôm a rheilen dorch traddodiadol ar ben y to.

At hyn, gallwch logi Land Rover gwyrdd clasurol gyda chwe sedd ar gyfer galarwyr. Gallwch ddefnyddio hwn fel dec hers maint llawn, a chanddo orffeniadau a gosodiadau crôm yn ogystal â rheilen dorch traddodiadol.

Dewi Glyn Jones Funeral Director

Beth ddylech chi ei wneud pan fo rhywun yn marw

Byddwn yn eich helpu pob cam o’r ffordd drwy gofrestru’r farwolaeth, trafod y goblygiadau os ydy’r crwner ynghlwm â’r angladd ac ateb unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych chi. Mae gennym ni drefnydd angladdau ar gael i siarad gyda theuluoedd unrhyw bryd. Gan y byddwn ni’n ymgymryd â’r rhan helaeth o’r baich, bydd cyfle ichi hel eich meddyliau at eich gilydd a pharatoi am y dyddiau sydd ar droed.

Yr Ardaloedd Rydym yn eu Gwasanaethu

Penrhyn Bay, Deganwy, Colwyn Bay, Llandudno, Conwy, Rhos on Sea a’r ardaloedd cyfagos.