Ffrydio Angladdau’n Fyw

Pwy ddylwn i ffonio? Beth sydd angen inni ei wneud nesaf?

Rydym yn awgrymu eich bod chi’n codi’r ffôn a chysylltu gyda ni yn gyntaf

01492 544797 Neu 07940 230664

Weithiau gallai pellter, iechyd neu amgylchiadau eraill rwystro teulu a ffrindiau rhag bod yn bresennol mewn angladd i ffarwelio a chydymdeimlo. Gan ein bod ni’n cynnig yr opsiwn o ffrydio angladdau’n fyw, mae’n gysur gwybod bod modd i’r rheiny sy’n methu â bod yn bresennol wylio ar-lein ac achub ar y cyfle i ffarwelio er nad ydyn nhw yno.

Gallwn helpu i sicrhau bod teuluoedd yn cadw mewn cysylltiad yn ystod y cyfnod anodd o golli anwylyd. Bydd ein tîm parchus a’n gwasanaeth proffesiynol yn sicrhau caiff yr angladd ei ffrydio’n fyw neu ei recordio’n gwbl ddi-dor. Rydym yn ymwybodol bod hon yn adeg anodd ichi, felly rydym yma i’ch helpu ac i ysgwyddo’r holl bwysau. Codwch y ffôn i siarad gyda ni.

Eisiau darganfod mwy? Cysylltu gyda ni

Ffrydio Angladdau’n

Beth ddylech chi ei wneud pan fo rhywun yn marw

Byddwn yn eich helpu pob cam o’r ffordd drwy gofrestru’r farwolaeth, trafod y goblygiadau os ydy’r crwner ynghlwm â’r angladd ac ateb unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych chi. Mae gennym ni drefnydd angladdau ar gael i siarad gyda theuluoedd unrhyw bryd. Gan y byddwn ni’n ymgymryd â’r rhan helaeth o’r baich, bydd cyfle ichi hel eich meddyliau at eich gilydd a pharatoi am y dyddiau sydd ar droed.

Yr Ardaloedd Rydym yn eu Gwasanaethu

Penrhyn Bay, Deganwy, Colwyn Bay, Llandudno, Conwy, Rhos on Sea a’r ardaloedd cyfagos.