Cynnyrch a Gwasanaethau
Prisiau
Rydym yn awgrymu eich bod chi’n codi’r ffôn a chysylltu gyda ni yn gyntaf
01492 544797 Neu 07940 230664
Mae’n ofyniad cyfreithiol i bob trefnydd angladdau gyhoeddi’r Rhestr Brisiau hon ar gyfer cyfres safonol o gynhyrchion a gwasanaethau. Nod hyn ydy eich helpu i ystyried eich opsiynau a gwneud dewisiadau, ac er mwyn ichi gymharu prisiau rhwng gwahanol drefnwyr angladdau (oherwydd fe allai’r prisiau amrywio).
Cliciwch Yma i lawr lwytho’r Rhestr Brisiau Safonol
Cliciwch Yma i lawr lwytho’r Ffioedd Amlosgi (ymhen 30 munud o’n parlwr angladdau)
Beth ddylech chi ei wneud pan fo rhywun yn marw
Byddwn yn eich helpu pob cam o’r ffordd drwy gofrestru’r farwolaeth, trafod y goblygiadau os ydy’r crwner ynghlwm â’r angladd ac ateb unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych chi. Mae gennym ni drefnydd angladdau ar gael i siarad gyda theuluoedd unrhyw bryd. Gan y byddwn ni’n ymgymryd â’r rhan helaeth o’r baich, bydd cyfle ichi hel eich meddyliau at eich gilydd a pharatoi am y dyddiau sydd ar droed.
